Yn eu maniffesto ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol mae UKIP yn dweud eu bod am gael gwared ar y Fformiwla Barnett sy’n penderfynu sut mae Trysorlys Llywodraeth San Steffan yn rhoi arian i Gymru.

Yn ôl plaid Nigel Farage mae’r fformiwla yn ffafrio’r Alban ar draul Cymru a Lloegr.

Hefyd yn y maniffesto, gafodd ei lansio ym Merthyr Tudful heddiw, mae addewid y bydd Cymru yn parhau i dderbyn yr un faint o arian ag y mae hi’n dderbyn mewn grantiau Amcan Un o Ewrop – a hynny er bod UKIP eisiau tynnu gwledydd Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.

Yn ôl y blaid-gadael-Ewrop mi fyddai’r arian – sy’ werth biliynau i ardaloedd tlota’ Cymru – yn dod yn syth o Drysorlys Llywodraeth Prydain.

Hefyd mae UKIP yn addo gwneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl banc cyhoeddus – ar hyn o bryd dim ond gweithwyr Cyngor Môn sy’n cael gwyliau ar ddydd ein nawddsant.

Yn ôl Arweinydd UKIP yng Nghymru, Nathan Gill, mae’r Cymry “yr un mor Ewro-sgeptig” â gweddill gwledydd Prydain.