Mae siopau a cheir tramorwyr yn cael eu rhoi ar dân yn Ne Affrica gan bobol sy’n erbyn mewnfudo.

Daw’r trais – sydd wedi achosi marwolaeth pum person yn yr wythnosau diwetha’ – er gwaethaf protest ddydd Mawrth oedd yn galw am roi stop ar dargedu mewnfudwyr.

Mae nifer o deuluoedd Johannesburg yn gorfod cael lloches mewn canolfannau cymdeithasol a channoedd wedi gorfod mynd i swyddfa’r heddlu neithiwr mewn ofn.

Mae pobol De Affrica yn cyhuddo’r tramorwyr, y rhan fwyaf o Affrica ac Asia, o gymryd swyddi mewn gwlad lle mae’r gyfradd diweithdra yn 24%.