Paul Bunch
Mae cwmni sy’n arloesi mewn maes ymchwil clinigol yn ehangu yn Abertawe gan greu bron i 90 o swyddi newydd.
Mae cwmni PRA Health Sciences yn ehangu am yr ail waith gyda chymorth ariannol gwerth £990,000 gan Lywodraeth Cymru.
Fe fydd y buddsoddiad gan y PRA, sydd â’i bencadlys yng Ngogledd Carolina yn yr Unol Daleithau yn cynnig 87 o swyddi i raddedigion, gan ddod â nifer y staff yn Abertawe i 280 erbyn Rhagfyr 2017.
“Mae gwyddorau bywyd yn sector pwysig iawn yn economi Cymru,” meddai Gweinidog yr Economi, Edwina Hart. “Gan hynny O ganlyniad mae’r ehangu diweddara’ yma gan PRA – un o bum sefydliad gorau’r byd ym maes ymchwil glinigol – i’w groesawu’n fawr.”
Safon graddedigion a staff lleol oedd un o’r rhesmau tros ehangu yn Abertawe, meddai Paul Bunch, Is-lywydd Gweithredol PRA.