Ed Miliband ... a'r tair arweinydd (Llun y BBC)
Fe ddaeth yr arweinydd Llafur, Ed Miliband, dan bwysau i addo cydweithio gyda phleidiau fel Plaid Cymru a’r SNP i rwystro’r Ceidwadwyr rhag ffurfio llywodraeth arall.
Dyna’r prif bwynt a gododd yn y drydedd drafodaeth deledu cyn yr Etholiad Cyffredinol, wrth i arweinyddion y gwrthbleidiau fynd ben ben â’i gilydd.
Fe gafodd ei herio’n gyson gan arweinwyr y ddwy blaid genedlaethol a’r Blaid Werddi fod yn fwy mentrus ac i droi cefn ar bolisïau cyni a’r toriadau llym – ond fe wrthododd ymuno mewn cynghrair gyda nhw.
Ateb Ed Miliband oedd fod y dewis go iawn rhyngddo ef ac arweinydd y Ceidwadwyr, David Cameron – rhwng cynllun i ddyblu’r toriadau a chynllun i warchod pobol sy’n gweithio wrth roi trefn ar y llyfrau ariannol yr un pryd.
Dyfyniadau
“Byddwn i’n gofyn i chi weithio gyda ni i roi diwedd ar ragor o doriadau Torïaidd a llywodraeth Dorïaidd arall,” meddai arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.“Wna i ddim helpu llywodraeth Lafur sy’n benderfynol o weithredu polisïau Torïaidd.”
“D’yn ni ddim eisiau cael gwared ar y Torïaid a chael Torïaid-lite yn eu lle,” meddai Nicola Sturgeon o’r SNP, yr arweinydd a gafodd fwya’ o glod gan y sylwebyddion ar ôl y drafodaeth. “R’yn ni eisiau newid y Torïaid am rywbeth gwell.”
Miliband dan bwysau
Ar y toriadau, adnewyddu arfau niwclear Trident a’r hawl i brynu tai cymdeithasol, fe ddaeth Ed Miliband dan bwysau gan y cenedlaetholwyr a Natalie Bennett, arweinydd y Blaid Werdd.
Ond fe gadwodd yntau ac arweinydd UKIP, Nigel Farage, at yr angen am arfau niwclear mewn byd peryglus, ond roedd Ed Miliband hefyd yn pwysleisio bod angen dysgu gwersi Irac ac Afghanistan a chydweithio mwy gyda gwledydd eraill wrth ymyrryd.
Fe ddywedodd y byddai Llywodraeth Lafur yn parhau i ymyrryd yn filwrol i geisio atal y mudiad Islamaidd milwrol, IS, yn y Dwyrain Canol.
Arian Cymru
Dan bwysau, oddi wrth Leanne Wood, fe wrthododd Ed Miliband addo cydraddoldeb ariannol rhwng Yr Alban a Chymru – er fod arweinwyr Llafur Cymru wedi addo £375 miliwn yn fwy i’r llywodraeth ym Mae Caerdydd.
Fe alwodd Leanne Wood hefyd am ddyblu’r dreth ar dai haf, am “fargen ariannol gref i Gymru” ac am adeiladu rhagor o dai cymdeithasol.