Y mwg o'r tân yn Ynyshir i'w weld o Fae Caerdydd
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn adrodd eu bod wedi gorfod ymateb i dros 400 o danau gwair bwriadol ers dechrau mis Ebrill, o’i gymharu â thua 120 yn yr un cyfnod y llynedd.

Ddoe, ar y diwrnod gwaethaf, bu’n rhaid i ddiffoddwyr tân ddelio a bron i 50 o achosion o fewn dim ond 12 awr – oedd yn cynnwys tân a ledodd i 1,000 o deiars ar fferm yn Ynyshir.

Dywedodd llefarydd o’r gwasanaeth bod y gweithwyr wedi “ymlâdd” ac y bydd ymchwiliad yn canolbwyntio ar ddal y troseddwyr.

Yn ôl adroddiadau, mae’r tanau wedi costio tua £795,000 i’r gwasanaeth, sy’n tua £2000 am bob digwyddiad.

‘Problem benodol’

Yn Rhondda Cynon Taf y digwyddodd y mwyaf o danau bwriadol, gyda 145 wedi’u cynnau, a Chaerffili oedd yn ail gyda 58.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân De Cymru wrth raglen BBC Radio Wales, Good Morning Wales ei bod hi’n “broblem benodol”.

“Mae ganddyn nhw’r potensial i effeithio ar fywyd ac eiddo. Os ydych chi’n ystyried gwneud y fath beth, rwy’n gofyn i chi stopio ar unwaith,” meddai.

Yr wythnos diwethaf, fe gafodd nifer o danau bwriadol eu cynnau yn y gogledd hefyd, gyda diffoddwyr yn cael eu galw i sawl digwyddiad ger Blaenau Ffestiniog.