Y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford
Mae’r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford wedi cyhoeddi bod Llywodraeth Cymru’n rhoi £3 miliwn er mwyn adnewyddu cyfleusterau hosbis yng Nghasnewydd.

Bydd y gwaith o adnewyddu’r safle yn Blackett Avenue, sy’n cynnwys codi estyniad newydd, yn costio £5 miliwn.

Mae’r hosbis yn cael ei chynnal gan Ofal Hosbis Dewi Sant, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Chyngor Dinas Casnewydd.

Bydd yr uned newydd yn cynnwys pum gwely ychwanegol ar ben y 10 sy’n bodoli yn yr uned bresennol yn Hosbis St Anne.

Mae’r uned yn gofalu am fwy na 3,000 o gleifion a’u teuluoedd bob blwyddyn.

Ymhlith y cyflyrau y mae’r hosbis yn darparu ar eu cyfer mae canser, clefyd y galon a chlefyd niwronau motor.

Mae gan Ofal Hosbis Dewi Sant brydles ar gyfer yr adeilad presennol tan 2018.

Cyfleusterau o’r radd flaenaf

Mewn datganiad, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford: “Mae’r model y mae Gofal Hosbis Dewis Sant wedi’i ddatblygu ar gyfer gofal lliniarol yn enghraifft dda o sut i ddarparu gwasanaethau gofal hosbis o’r radd flaenaf.

“Rwy’n hynod o falch i gynnig y cymorth ariannol hwn i sicrhau bod Gofal Hosbis Dewi Sant yn gallu darparu’r gwasanaethau gofal lliniarol ychwanegol y mae fwyfwy o alw amdanynt yn ne-ddwyrain Cymru.

“Bydd yr hosbis newydd yn cynnig manteision sylweddol i gleifion a’u teuluoedd drwy ddisodli a gwella’r cyfleusterau presennol.

‘Y gwasanaethau diweddaraf’

Dywedodd Prif Weithredwr Gofal Hosbis Dewi Sant, Emma Saysell: “Mae Gofal Hosbis Dewi Sant yn hynod o falch i dderbyn y newyddion am y cymorth ariannol o £3 miliwn gan Lywodraeth Cymru.

“Bydd yr hosbis newydd yn cynnig y gwasanaethau diweddaraf i gleifion a’u teuluoedd, ac yn sicrhau bod pobl yn gallu cael y gofal lliniarol a diwedd oes gorau, waeth beth fo’u diagnosis.

“Mae Gofal Hosbis Dewi Sant wedi cydweithio â’r gymuned leol ac â gwirfoddolwyr am nifer o flynyddoedd, ac rydyn ni’n ddyledus iddyn nhw i gyd am barhau i gynnig eu cymorth.

“Bellach, rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda nhw i wireddu’r cyfle gwych hwn ar gyfer gofal hosbis. ”

‘Gofal diwedd oes arbenigol’

Dywedodd Judith Paget, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan:

“Rydyn ni’n croesawu’r cymorth ariannol hwn ar gyfer hosbis newydd a fydd yn cynnig gofal diwedd oes arbenigol i gleifion a’u teuluoedd o bob rhan o ardal y Bwrdd Iechyd.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau i weithio ar y cyd â Gofal Hosbis Dewi Sant a Chyngor Dinas Casnewydd, a byddwn ni’n sicrhau bod cleifion yn parhau i gael y gofal lliniarol o’r ansawdd gorau y gallwn ni ei ddarparu.”