E-sigaret
Mae ymchwil newydd sydd wedi’i gyhoeddi yng nghyfnodolyn y BMJ yn dangos bod e-sigarets yn fwy cyffredin ymhlith plant dan 15 oed na sigaréts cyffredin.

Yn ôl yr ymchwil gan Brifysgol Caerdydd ar ran Llywodraeth Cymru, mae plant oedran ysgol gynradd yng Nghymru’n fwy tebygol o fod wedi defnyddio e-sigarets na thybaco cyffredin.

Dywedodd mwy o blant eu bod nhw wedi defnyddio e-sigarets na thybaco hyd at 14 neu 15 oed.

Roedd 6% o blant 10 neu 11 oed a 12% o blant 11-16 wedi defnyddio e-sigaret o leiaf unwaith.

Dim ond ymhlith plant 15 neu 16 oed roedd mwy o bobol wedi ysmygu sigarét cyffredin nag oedd wedi defnyddio e-sigaret.

Cafodd dau holiadur eu cwblhau yn 2013-14 ymhlith plant ysgol gynradd ac ysgol uwchradd.

Prif gasgliadau’r ymchwil

  • Roedd plant ysgol gynradd yn fwy tebygol o fod wedi defnyddio e-sigaret (6%) na thybaco (2%)
  • Dywedodd mwy o blant 14 neu 15 oed eu bod nhw wedi defnyddio e-sigaret na thybaco cyffredin
  • Dywedodd 12% o blant ysgol uwchradd eu bod nhw wedi defnyddio e-sigaret
  • Dywedodd 5% o blant 10 neu 11 oed, ac 8% o blant 15-16 oed oedd erioed wedi ysmygu o’r blaen eu bod nhw wedi rhoi cynnig ar e-sigaret.

‘Normaleiddio ysmygu’

Dywedodd y Prif Swyddog Meddygol, Dr Ruth Hussey: “Mae’n hanfodol ein bod ni’n helpu pobol ifanc yng Nghymru i fyw bywydau hir ac iach a’u hamddiffyn nhw rhag niwed sy’n cael ei achosi gan dybaco.

“Rwy’n gofidio y gallai e-sigarets normaleiddio ysmygu ymhlith cenhedlaeth sydd wedi’u magu i raddau helaeth mewn cymdeithas ddi-fwg.”

Mae cyfyngiadau eisoes wedi cael eu cyflwyno er mwyn cwtogi ar y mannau lle gellir defnyddio e-sigarets.