Canolfan Saith Seren
Mae mudiad iaith wedi gofyn i’r Prif Weinidog Carwyn Jones ymyrryd er mwyn cadw canolfan Gymraeg y Saith Seren yn Wrecsam ar agor.
Ar ôl rhedeg y ganolfan fel menter gydweithredol ers tair blynedd a hanner, cyhoeddodd y rheolwyr nos Lun bod rhaid cau’r adeilad oherwydd trafferthion ariannol. Mae’r newydd wedi cael ei ddisgrifio fel “cam yn ôl i’r iaith yn lleol”.
Mae trigolion lleol a thu hwnt wedi synnu bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi grant gwerth £300,000 i Goleg Cambria, Wrecsam gerllaw i sefydlu Canolfan Gymraeg – ond heb roi cefnogaeth i Saith Seren.
Fe arweiniodd hyn at sefydlu ymgyrch ariannol i achub y ganolfan , sydd wedi ennyn cefnogaeth 250 o bobol mewn 24 awr fyddai’n fodlon cyfrannu £10 y mis at gostau Saith Seren.
Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru bod pob penderfyniad i ddyrannu grantiau “yn cael eu gwneud gan ddilyn canllawiau tryloyw.”
Y Grantiau
Ym mis Awst y llynedd, sefydlodd Llywodraeth Cymru gronfa ariannol i agor canolfannau Cymraeg hyd a lled Cymru er mwyn hybu defnydd y Gymraeg ar lawr gwlad.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi sgwennu at Carwyn Jones, sy’n gyfrifol am yr iaith Gymraeg o fewn y Llywodraeth, i ddefnyddio’r gronfa i gynorthwyo’r Saith Seren.
“Credwn fod y ganolfan yn gwneud cyfraniad pwysig i ddefnydd y Gymraeg yn y dref, ac y byddai’n drueni mawr pe bai hi’n diflannu fel adnodd cymunedol, meddai Aled Powell cadeirydd rhanbarth lleol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn y llythyr.
“Rydym yn falch eich bod fel Llywodraeth wedi rhoi cryn bwyslais ar bwysigrwydd defnydd y Gymraeg yn y gymuned: credwn y byddai cynnig cymorth i’r ganolfan hon yn ffordd o hybu’r Gymraeg yn Wrecsam.
“…Mae nifer o broblemau ariannol yn deillio o’r costau rhent felly gallai eich arian cyfalaf fod o gymorth mawr wrth oresgyn yr heriau hynny.”