Leanne Wood
Mae Leanne Wood yn gobeithio y bydd ei hymddangosiad ar y dadleuon etholiadol ar deledu eleni yn hwb i ymgyrch etholiadol ei phlaid.

Gwyliodd dros saith miliwn o bobol y ddadl ar ITV rhwng arweinwyr y saith plaid gan gynnwys Plaid Cymru a’r sylw ar y cyfryngau Prydeinig yn cael ei ystyried yn hwb i broffil arweinydd Plaid Cymru.

Mewn cyfweliad diweddar â phapur y Guardian cyfaddefodd bod twristiaid o Loegr wedi ei hamgylchynu wrth iddi ymgyrchu ym Miwmares i ofyn am gael tynnu lluniau gyda hi.

“Ers y dadleuon teledu dw i wedi cael cymaint o bobol yn dod fyny ata’ i a dweud eu bod nhw wedi eu gwylio nhw a’u bod nhw’n hoff o beth oedd gan Blaid Cymru i’w ddweud,” mynnodd Leanne Wood wrth golwg360.

“Ond beth oedd yn ddiddorol i mi yw faint o bobol o Loegr sydd wedi dweud y bydden nhw’n hoffi pleidleisio dros blaid fel Plaid Cymru petaen nhw’n gallu, ac mae hynny’n galonogol iawn i mi.”

Bydd y ddadl deledu Brydeinig nesaf yn digwydd heno (nos Iau 16 Ebrill) ar y BBC gydag arweinwyr pump o’r pleidiau –Natalie Bennett (Y Blaid Werdd), Nigel Farage (UKIP), Ed Miliband (Llafur), Nicola Sturgeon (SNP), a Leanne Wood (Plaid Cymru).

Fodd bynnag, ni fydd arweinydd y Ceidwadwyr David Cameron nac arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Nick Clegg yn cymryd rhan.

Targedu Ceredigion

Mae arweinydd Plaid Cymru yn gwrthod datgan bod Ceredigion yn un o’r etholaethau targed i’w chipio yn yr etholiad cyffredinol ar Fai 7.

“Mae gennym ni siawns dda yma, ond rydyn ni hefyd yn cydnabod ei fod yn etholiad i San Steffan ac felly y gallai fod yn dalcen caled i Blaid Cymru.

“Fe fyddwn ni’n ceisio gwneud mor dda ac y gallwn ni, ond dw i’n fwriadol heb ddatgan pa seddau targed sydd gennym ni achos dw i eisiau ein gweld ni’n gwneud yn dda drwy’r wlad i gyd.”

Roedd yn feirniadol o’r penawdau yn y wasg am Mike Parker a’r ymgeisydd Llafur Huw Thomas am sylwadau wnaethon nhw flynyddoedd yn ôl.

Mae’n gandryll bod y Cambrian News wedi “taflu baw” at ymgeisydd Plaid Cymru wrth geisio ei bortreadu fel rhywun oedd yn feirniadol o fewnfudwyr o Loegr.

“Mae’r sylw yn y wasg wedi bod yn warthus a dweud y gwir,” meddai Leanne Wood.

“Mae’n eironig fod gennym ni ymgeisydd fan hyn yn Mike Parker sydd yn wreiddiol o Loegr, sydd yn cael ei gyhuddo o ryw fath o hiliaeth gwrth-Seisnig pan dyw hynny dim yn agos at y gwir.

“Roedd e’n siarad mas yn erbyn hiliaeth, ac mae’r ffaith ei fod wedi cael ei bortreadu fel petai’n dod o safbwynt hiliol yn hollol hurt yn fy marn i.”

Gallwch ddarllen rhagor am yr ymgyrch yng Ngheredigion yn rhifyn yr wythnos hon o gylchgrawn Golwg.

Stori: Iolo Cheung