Carwyn Jones
Bydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones a llefarydd materion Cymreig San Steffan, Owen Smith yn lansio maniffesto’r Blaid Lafur yng Nghymru heddiw.

Bydd eu maniffesto yn cynnwys manylion ynghylch £375 miliwn o arian ychwanegol i Gymru, yn ogystal â chyfres o bwerau newydd a chynllun economaidd newydd.

Bydd y maniffesto’n amlinellu sut bydd y blaid yn gwobrwyo pobol sy’n gweithio’n galed er mwyn adeiladu “Prydain well”.

Mae’r maniffesto yn seiliedig ar y gred fod “Prydain a Chymru’n llwyddo pan fo teuluoedd sy’n gweithio’n llwyddo”.

Bydd y blaid yn cyhoeddi cynlluniau i gryfhau’r Gwasanaeth Iechyd a darparu rhagor o wasanaethau gofal plant i rieni sy’n gweithio.

‘Cynllun teg i Gymru’

Pwysleisiodd y blaid nad ydyn nhw’n benthyg arian er mwyn ariannu’r cynlluniau.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: “Mae’r maniffesto hwn yn gynllun teg i Gymru – cynllun i ail-gydbwyso ein heconomi fel ei bod yn gweithio i bobol gyffredin, nid dim ond y rhai breintiedig ar y brig.”

Ychwanegodd fod y cynllun yn galluogi Cymru i wneud penderfyniadau drosti ei hun.

“Gyda dwy lywodraeth Lafur yn cydweithio, gallwn roi negatifrwydd y bum mlynedd diwethaf y tu cefn i ni a ffurfio undeb newydd a phositif i’n pobol.”

Ychwanegodd na fyddai’r Ceidwadwyr “byth yn ffrind i Gymru”.

Dywedodd Owen Smith fod y maniffesto “o fudd mawr i bobol Cymru”, gan gyfeirio at godi’r isafswm cyflog, dileu cytundebau dim oriau  a herio cwmnïau ynni.

Dywedodd mai “Llafur yn unig fyddai’n gweithio er lles Cymru”.