Karen Buckley
Mae dyn 21 oed wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â marwolaeth y fyfyrwraig Karen Buckley ar ôl i’r heddlu ddarganfod gweddillion dynol ar fferm ar gyrion Glasgow.
Fe ddiflannodd Karen Buckley, 24, yn oriau man fore dydd Sul ar ôl iddi fod mewn clwb nos yn Glasgow.
Cafodd y dyn ei arestio’n ffurfiol y bore ma.
Nid yw’r gweddillion dynol y cafwyd hyd iddyn nhw ar fferm yng ngogledd Glasgow wedi cael eu hadnabod yn ffurfiol hyd yn hyn ond mae teulu Karen Buckley wedi cael eu hysbysu, meddai Heddlu’r Alban.
Roedd Karen Buckley, sy’n dod o Gorc yng Ngweriniaeth Iwerddon, yn fyfyrwraig therapi galwedigaethol ym Mhrifysgol Glasgow ers mis Chwefror.
Roedd wedi cyrraedd clwb nos The Sanctuary tua 11.45yh nos Sadwrn gyda’i ffrindiau a tua 1yb dywedodd ei bod yn mynd i’r toilet. Fe fethodd a dychwelyd ac nid oedd wedi mynd a’i siaced gyda hi.
Mae nofwyr tanddwr yr heddlu, hofrennydd a chwn wedi bod yn rhan o’r ymdrech i chwilio amdani.
Cafwyd hyd i’w bag llaw ym Mharc Dawsholm ddydd Mawrth ac yna fe ddechreuodd yr heddlu chwilio fferm High Craigton yng ngogledd y ddinas.
Yn gynharach ddoe roedd plismyn wedi bod yn chwilio fflat yn Heol Dorchester yn Glasgow lle cafodd y fyfyrwraig ei gweld y tro diwethaf, yn ol adroddiadau.
Roedd ei theulu wedi teithio i Glasgow ddydd Mawrth ac roedd ei mam Marian Buckley, 61, wedi gwneud apêl i ddychwelyd ei merch adre’n ddiogel.
Fe fydd y dyn yn mynd gerbron Llys Siryf Glasgow yfory.