Mae ymchwiliad ar y gweill wedi i gerddwr 76 oed gael ei ladd mewn damwain ffordd yn Nhredegar y bore ‘ma.
Fe wnaeth car Mazda wrthdaro a’r cerddwr ar bromenâd y dref am 9:45 bore dydd Mawrth.
Cafodd y cerddwr anafiadau difrifol i’w ben a’i gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, lle bu farw yn ddiweddarach.
Mae dyn lleol 54 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ladd trwy yrru’n beryglus ac yn cael i gadw yn y ddalfa.
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â Heddlu Gwent ar 101.