Cyngor Sir Benfro
Fe fydd y broses o ad-drefnu addysg chweched dosbarth yn Sir Benfro yn parhau, wedi i gynghorwyr bleidleisio tros fwrw mlaen a’r cynlluniau mewn cyfarfod heddiw.
Mae’n digwydd er gwaethaf protest gan tua 300 o bobol, sy’n gwrthwynebu bwriad y cyngor, y tu allan i Neuadd y Sir y bore ‘ma.
Fe wnaeth cynghorwyr bleidleisio yn erbyn rhoi stop ar y cynlluniau i sefydlu coleg chweched dosbarth ar safle Coleg Sir Benfro yn Hwlffordd – fyddai’n golygu cau chweched dosbarth Dewi Sant (Tyddewi), Bro Gwaun (Abergwaun) a Syr Thomas Picton (Hwlffordd).
Cefndir
Fe wnaeth cynghorwyr gymeradwyo cynllunio ad-drefnu ar gyfer addysg ôl-16 yng nghanolbarth a gogledd y sir ym mis Ionawr.
Mae hynny wedi arwain at gyfnod ymgynghori sydd yn cael ei gynnal ar hyn o bryd.
Roedd gwelliant i’r argymhellion yn gofyn am ymchwilio i’r posibilrwydd o gadw addysg chweched dosbarth yn yr ysgolion dan sylw.
Ond fe ddywedodd arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd James Llewellyn Adams, ei fod o’n poeni y byddai unrhyw oedi yn peryglu arian o gronfa addysg yr unfed ganrif ar hugain, Llywodraeth Cymru.