David Cameron
Wrth i’r ymgyrchu ar gyfer yr etholiad cyffredinol ddwysau eto heddiw ar ôl penwythnos y Pasg, bydd David Cameron yn ymweld â Chymru wrth iddo fynd i bob un o wledydd y DU mewn diwrnod.
Gyda 30 diwrnod i fynd nes yr etholiad ar 7 Mai, bydd taith y Prif Weinidog yn dechrau yn yr Alban cyn iddo ymweld â Gogledd Iwerddon, Cymru ac yna Lloegr.
Mae disgwyl i arweinydd y Ceidwadwyr bwysleisio fod manteision yr adfywiad economaidd yn dechrau cael eu gweld gan fwyafrif poblogaeth y DU, ar ôl i nifer o fesurau treth a phensiynau newydd ddod i rym ddoe.
Bydd hefyd yn apelio ar bleidleiswyr UKIP i “ddod adref” at y Ceidwadwyr er mwyn osgoi llywodraeth Lafur o dan Ed Miliband.
Ond gallai David Cameron wynebu cwestiynau am anfodlonrwydd o fewn ei blaid. Yn ol The Independent heddiw, nid yw maniffesto’r Ceidwadwyr yn gyflawn, lai nag wythnos cyn ei gyhoeddi.
Dywedodd un Aelod Seneddol Ceidwadol wrth y papur fod yr ymgyrch hyd yma wedi bod yn ymwneud â “manteision a thactegau gwleidyddol cul” yn hytrach nag “angerdd a chred”.
Bydd y pleidiau eraill hefyd yn ymgyrchu yng Nghymru.
Bydd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Nick Clegg yn Sir Drefaldwyn heddiw i drafod cynlluniau’r blaid ar gyfer cyllid y Gwasanaeth Iechyd (GIG).
Ym Mro Morgannwg, bydd llefarydd Llafur ar waith a phensiynau, Rachel Reeves, yn dweud wrth bleidleiswyr bod ganddyn nhw fis i gael gwared ar “y dreth ystafell wely.”
Bydd Plaid Cymru yn lansio maniffesto ar Ynys Môn, gydag addewid i wella cefnogaeth i ffermwyr, a bydd UKIP Cymru yn cynnal rali yn Abertawe.