Tony Blair
Fe fydd Tony Blair yn rhybuddio heddiw y gall ail dymor i David Cameron arwain at anhrefn economaidd.

Wrth siarad yn ei gyn etholaeth yn Sedgefield heddiw, bydd y cyn brif weinidog yn rhybuddio bod Cameron yn ceisio gwthio Prydain allan o Ewrop er mwyn ennill pleidleisiau gan Ukip.

Bydd Tony Blair, ynghyd a’i wraig Cherie, yn ymddangos yn y cyntaf o ymweliadau fel rhan o’r ymgyrchu gwleidyddol ar ran y Blaid Lafur dros y dyddiau nesaf.

Bydd yn rhybuddio heddiw y byddai’r posibilrwydd o adael yr Undeb Ewropeaidd yn creu ansicrwydd o ran swyddi ac economi Prydain.

Mae disgwyl iddo hefyd ddweud bod ei olynydd Ed Miliband wedi dangos “arweinyddiaeth glir” drwy wrthod refferendwm ar ddyfodol Prydain yn yr UE.

Ni fydd Miliband yn bresennol gan fod disgwyl iddo barhau a’i ymgyrch yn ne orllewin Lloegr.