Mae dyn 40 oed a fu ar goll o’i gartre’ yn Rhisga, wedi’i ganfod yn farw.

Fe ddaethpwyd o hyd i gorff Gary Owen yn ardal Cwmbrân brynhawn Sul, Ebrill 5.

Dyw Heddlu Gwent ddim yn trin y farwolaeth fel un amheus ar hyn o bryd, ac mae’r Crwner wedi cael gwybod am y datblygiadau.