Owen Smith, Gweinidog Cymru yr Wrthblaid yn San Steffan
Byddai addewid Llafur o roi’r bleidlais i bobol ifanc 16 oed, yn golygu fod 1.5 miliwn yn ychwanegol yng ngwledydd Prydain yn cael bwrw’u croes mewn etholiadau.
Mae ystadegau newydd sydd wedi’u cyhoeddi heddiw yn dangos y byddai 1.5 miliwn o bobol ifanc 16 a 17 oed yn cael fotio dan drefn newydd. Fe fyddai’n cynrychioli’r cynnydd mwya’ yn y nifer sy’n cael pleidleisio ers bron i hanner canrif.
Ac o blith y miliwn a hanner, fe fyddai 75,000 o bobol 16 a 17 oed yng Nghymru.
Pwysig
Wrth gyflwyno’r syniad heddiw, roedd Gweinodog Cymru yr Wrthblaid yn San Steffan, Owen Smith, yn awyddus iawn i bwysleisio pa mor bwysig yw hi i bobol Cymru – pawb sydd â’r hawl i bleidleisio – i droi allan ar Fai 7. Nid leiaf er mwyn dileu Treth yr Ystafell Wely, meddai…
“Mae dyfodol Treth yr Ystafell Wely bellach yn nwylo etholwyr Cymru. Os y bydd y Torïaid yn ennill yr etholiad, fe fydd y dreth hon yn bwrw 70,000 yn rhagor o deuluoedd yng Nghymru rhwng 2015 and 2020. Os y bydd Llafur yn ennill grym yn San Steffan ar ôl Mai 7, fe fydd dileu’r dreth hon yn flaenoriaeth gan lywodraeth nesa’r Deyrnas Unedig.
“Mae pobol sy’n byw yng Nghymru yn 40% yn fwy tebygol o gael eu heffeithio gan y dreth hon na phobol mewn rhannau eraill o’r DU,” meddai Owen Smith wedyn.
“Mae’n mynd i daro menywod, pobol sy’n gofalu am eraill, a phobol anabl, waetha’. Mae nifer yn cael eu gorfodi i ddefnyddio banciau bwyd, neu fynd i ddyled, er mwyn byw. Pleidleisio tros Lafur yw’r unig ffordd o gael gwared â’r dreth gas hon.”
Faint o bobol 16 ac 17?
Trwy holl wledydd y Deyrnas Unedig, mae cyfanswm o 1.545 miliwn o bobol ifanc 16 ac 17 oed yn byw.
Yn Lloegr y mae 1.3 miliwn o’r rheiny; 75,000 ohonyn nhw yng Nghymru; 123,000 yn Yr Alban; 49,000 yng Ngogledd Iwerddon.
Oddi fewn i Loegr, mae 127,000 yn y de-orllewin; 214,000 yn y de-ddwyrain; 187,000 o fewn dinas Llundain; 146,000 yn y dwyrain Lloegr; 144,000 yn y West Midlands; 112,000 yn ardal yr East Midlands; 175,000 yn y gogledd-orllewin; 130,000 yn Swydd Efrog a Humberside; a 62,000 yn y gogledd-ddwyrain.
Cyfrifoldeb
Ar hyn o bryd, fe all dinasyddion Prydeinig wneud y pethau canlynol yn 16 oed:
* rhoi caniatad llawn i dderbyn triniaeth feddygol;
* gadael yr ysgol a mynd i weithio’n llawn amser;
* talu treth incwm ac Yswiriant Cenedlaethol;
* cael cerdyn credyd a budd-daliadau yn eu henwau eu hunain;
* cydsynio i berthynas rywiol;
* priodi neu gydsynio i bartneriaeth sifil;
* newid eu henw yn swyddogol;
* bod yn gyfarwyddwr cwmni;
* ymuno â’r lluoedd arfog;
* ymaelodi ag undeb llafur neu gymdeithas gyd-weithredol.