Dyw hi ddim yn ddigon da bod ymchwil i iechyd meddwl yn derbyn tuag 1% o’r cyllid y pen sy’n cael ei roi i ymchwil canser, yn ôl adroddiad newydd gan elusen.
Am bob 3c sy’n cael eu cyfrannu gan y cyhoedd at ymchwil iechyd meddwl, mae £2.75 yn cael ei gyfrannu at ymchwil canser.
Mae hyn, yn ôl elusen MQ, yn rhwystro arbenigwyr rhag gwneud gwaith ymchwil pwysig ar gyflwr sy’n effeithio ar tua 23% o bobol gwledydd Prydain ar ryw adeg neu’i gilydd.
‘Ddim yn gwybod digon’
Er bod 12% o gyllid y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn cael ei wario ar iechyd meddwl, ac £115 miliwn yn cael ei wario ar ymchwil trwy Brydain, mae’r elusen yn rhybuddio nad yw arbenigwyr yn gwybod digon am y cyflwr.
“Fel mae ein hymchwil wedi dangos, mae’r lefel bresennol o ymchwil yn annigonol. Mae’n golygu bod ymchwilwyr yn cael eu dal yn ôl mewn meysydd allai wneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobol, gan gynnwys datblygu triniaethau newydd a chyfleoedd i atal problemau iechyd meddwl mewn cenedlaethau i ddod,” meddai prif weithredwr MQ Cynthia Joyce.
Ffigyrau
Yn ôl adroddiad MQ, £9.75 y pen sy’n cael ei wario ar ymchwil iechyd meddwl, tra bod £1,571 y pen yn cael ei wario ar ymchwil canser.
Roedd £3.98 y pen yn cael ei wario ar awtistiaeth a £1.55 ar iselder, gydag 89c yn cael ei wario ar Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol (OCD).
Mae llai na 21c y pen yn cael ei wario ar ymchwil i anwylderau bwyta a gorbryder.