Mae deiseb wedi’i dechrau i geisio achub swyddfa un o bapurau hyna’ Cymru ac mae protest wedi’i threfnu i alw am ailystyried y penderfyniad.

Fe gyhoeddodd cwmni Trinity Mirror yr wythnos ddiwetha’ eu bod yn cau swyddfa y Caernarfon and Denbigh Herald yng Nghaernarfon er mwyn “adlewyrchu’r oes ddigidol”.

Y swyddfa ar Stryd y Porth Mawr yw pencadlys lleol papurau newydd y Daily Post, Caernarfon and Denbigh Herald, Holyhead and Anglesey Mail, Bangor and Anglesey Mail a’r Herald Cymraeg a’r cysylltiad ola’ gydag oes aur Caernarfon yn brifddinas yr inc.

Beirniadaeth

Fe gafodd y penderfyniad ei feirniadu gan y gwleidyddion Alun Ffred AC a Hywel Williams AS – byddai cau’r swyddfeydd yn torri cysylltiad 150 o flynyddoedd â newyddiaduraeth brint lleol yn Dre, medden nhw.

Erbyn hyn, mae deiseb ar-lein wedi’i lansio gan Undeb y Newyddiadurwyr sy’n pryderu bod cau’r swyddfa yn “lleihad pellach yn ymrwymiad Trinity Mirror i newyddiaduraeth leol yn y rhanbarth”.

Bydd protest hefyd yn cael ei chynnal ar Y Pendist, Caernarfon ar 11 Ebrill am 1:00 y prynhawn.

Hanes

Yn y gorffennol, roedd mwy nag 17 o bapurau newydd yn cael eu cyhoeddi yn y dre’.

Sefydlwyd y Caernarfon and Denbigh Herald yn 1831 ac mae wedi ennill sawl gwobr tros y blynyddoedd.