Mae hi wedi dod i’r amlwg fod Cyngor Sir Gâr wedi methu â chasglu gwerth tua £1.4 miliwn o ddyledion treth dros y blynyddoedd diwetha’.
Fe fu’n rhaid i’r awdurdod sgrapio’r dyledion o 2011-2014 am wahanol resymau, gan gynnwys methu olrhain y dyledwr, bod y dyledwyr wedi marw neu bod dadl ynglŷn â maint y ddyled.
Yn ôl y cyngor, mae’r swm yn cynrychioli “canran fechan iawn” o’r dyledion treth sydd wedi cael eu casglu.
Mae’r wybodaeth wedi cael ei gchyhoeddi yn dilyn Cais Rhyddid Gwybodaeth gan y South Wales Evening Post.
Cymryd pob mesur
Dywedodd rheolwr gwasanaethau cyllid y cyngor, John Gravelle: “Yn debyg i bob awdurdod lleol arall, mae Cyngor Sir Gâr yn cymryd pob mesur posib i adennill dyledion treth.”
“Yn ystod 2013-14, fe wnaethon ni ddelio â dros 9,000 o orchmynion llys ac ennill bron i 5,800 o achosion yn ymwneud â dyledion treth cyngor.
“Ond mae canran fechan iawn o achosion lle, am wahanol resymau ac er gwaethaf ymdrechion y cyngor, nad yw hi’n bosib sicrhau taliad ac mae’n rhaid i ni eu trin fel achosion nad ydym yn medru eu hadfer.
“Dros dair blynedd fe wnaethon ni gasglu £209 miliwn o 86,000 o gyfrifon felly mae’r swm sydd wedi cael ei sgrapio yn ganran fach iawn o’r cyfanswm ac yn adlewyrchu ymrwymiad y cyngor i adennill pres y pwrs cyhoeddus.”