Bu’n rhaid i gartrefi yn ardaloedd gwledig Wrecsam a Sir y Fflint dreulio’r noson heb ddŵr wedi i un o’r prif beipiau fyrstio yn ddirybudd.

Fe gyhoeddodd cwmni Dŵr Dyffryn Dyfrdwy ar eu gwefan y bore yma eu bod yn defnyddio eu holl adnoddau er mwyn ceisio adfer y cysylltiad.

Daeth cwynion i law’r cwmni o ardaloedd Holt, yr Orsedd Goch a Kinnerton am tua 10:00 neithiwr.

Iechyd

Mae’r broblem hefyd yn effeithio ar bentrefi yn Swydd Gaer ac, ar ôl i’r cyflewnad gael ei adfer,  mae disgwyl y bydd y dŵr yn gymylog.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni nad oedd peryg i iechyd ac y dylai pobol agor y tap am tua 15 munud er mwyn i’r dŵr glirio.