Mae angen gwella perfformiad Gwasanaeth Ambiwlans Crymu a chryfhau hyder y cyhoedd ynddo ar frys, yn ôl adroddiad newydd gan un o bwyllgorau’r Cynulliad.
Fe rybuddiodd aelodau Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad fod ymateb y gwasanaeth ambiwlans wedi syrthio “islaw’r lefelau perfformiad y mae gan bobol Cymru hawl i’w disgwyl”.
Mewn llythyr 10 tudalen at y Dirprwy Weinidog Iechyd Vaughan Gething, mae’r pwyllgor yn nodi wyth maes lle mae angen gwella, sy’n cynnwys:
- yr angen i fyrddau iechyd lleol ymwneud mwy â gwaith Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru;
- yr angen i fynd i’r afael ag ambiwlansys sy’n cael eu ‘tynnu’ o’u hardaloedd;
- y broblem o ambiwlansys yn aros y tu allan i ysbytai.
Arweinyddiaeth
Er bod canmoliaeth i “arweinyddiaeth gref” prif weithredwr newydd y gwasanaeth, Tracy Myhill, mae’r pwyllgor yn dweud nad yw’r cynnydd yn digwydd yn “ddigon cyflym” er mwyn gwella’r amseroedd ymateb.
Mewn ymateb, dywedodd Cadeirydd Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru, Mick Giannas bod y gwasanaeth yn croesawu’r adroddiad ac y bydden nhw’n adeiladu ar eu gwaith hyd yn hyn.
Targed Llywodraeth Cymru yw bod 65% o ambiwlansys yn ymateb i’r galwadau mwyaf difrifol o fewn wyth munud ond dyw hwnnw ddim wedi ei gyrraedd ers tua dwy flynedd.
Sylwadau’r Cadeirydd
Dywedodd David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Yn unigol, mae staff rheng flaen y gwasanaeth ambiwlans yn cyflawni rolau heriol i safonau uchel ac yn darparu cymorth a chefnogaeth i bobl ar adegau o angen ond, ar y cyfan, nid yw perfformiad amseroedd ymateb y gwasanaeth ambiwlans yn cyrraedd y lle y dylai.
“Rydym yn cydnabod yr arweinyddiaeth gref a ddangosir gan brif weithredwr newydd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, a’r camau ymarferol y mae wedi eu cymryd i sicrhau newid diwylliannol a gwella perfformiad. Er gwaethaf hyn, nid yw’r Pwyllgor yn argyhoeddedig bod perfformiad yn gwella yn ddigon cyflym.”