John Kerry - wedi aros
Fe fu cynrychiolwyr o Iran a chwech o wledydd mawr y byd yn trafod trwy’r nos mewn ymgais funud ola’ i gael dealltwriaeth am raglen niwclear y wlad.

Fe arhosodd Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, John Kerry, yn hwy na’r disgwyl – arwydd, meddai sylwebyddion, fod gobaith o gynnydd.

Y nod yw cael dealltwriaeth sylfaeol a allai arwain at gytundeb go iawn erbyn diwedd mis Mehefin.

Fe ddaeth y trafodaethau i ben yn Lausanne, Y Swistir, am chwech y bore, ond mae disgwyl iddyn nhw ailddechrau yn nes ymlaen fore heddiw.

Mae gwledydd y Gorllewin yn ceisio sicrwydd na fydd Iran yn datblygu arfau niwclear.