Penrhyn Kamchatka - ardal y ddamwain
Mae 54 o bobol wedi marw wedi i long gyda 132 o bobol arni suddo oddi ar arfordir Rwsia.

Dywedodd y gwasanaethau brys yn Kamchatka bod 63 o aelodau’r criw wedi cael eu hachub ond bod 15 o bobol ar goll.

Mae mwy na 25 o gychod pysgota yn yr ardal wedi bod yn cynorthwyo’r gwasanaethau brys gyda’u hymgyrch achub.

Dyw’r awdurdodau ddim wedi rhoi rheswm tros y suddo ar hyn o bryd, ond mae gwasanaeth newyddion Interfax wedi dweud  y gall rhew yn y Môr Tawel fod yn un o’r achosion.

Ymysg y criw o 132 o bobol, roedd 78 o Rwsia, 42 o Burma a’r gweddill o Latfia, yr Wcráin a Vanuatu.