Llun o'r adroddiad
Mae cenhedlaeth o blant yn cael eu magu heb gael profiadau traddodiadol fel hedfan barcud neu wneud cadwyni llygad y dydd, yn ôl astudiaeth newydd.
Mae ymchwilwyr wedi canfod fod gweithgareddau traddodiadol fel hyn yn diflannu, wrth i blant dreulio’r rhan fwya’ o’u hamser yn chwarae gêmau cyfrifiadur a gwylio teledu.
Mae’r gwaith ymchwil yn awgrymu fod plant ar gyfartaledd yng Nghymru yn treulio pump awr bob wythnos yn chwarae y tu allan, pan oedd eu rhieni yn treulio 12 awr yn yr awyr iach.
A dyw mwy na hanner plant Cymru erioed wedi cael picnic y tu allan.
‘Dieithr’
Mae chwarae mewn caeau a dringo coed yn datblygu’n weithgaredd dieithr i lawer o ieuenctid heddiw, yn ôl yr adroddiad a oedd wedi ei gomisiynu gan grŵp o atyniadau twristaidd sy’n ymwneud â’r amgylchedd.
“I lawer o bobol, mae’r gweithgareddau hyn yn rhan fawr o’u plentyndod, sy’n gadael atgofion a phrofiadau gwerthfawr am fyd natur,” meddai David Hardy, Pennaeth Marchnata Gerddi Fotaneg Cymru sy’n aelod o’r Grwp Eco-Atyniadau a gomisiyniodd yr ymchwil
“Ond mae llawer o blant heddiw yn ei chael hi’n anodd i brofi hynny drostyn nhw eu hunain.”
“Mae gan blant lawer mwy o bethau i ddiddanu eu hunain y dyddiau hyn fel cyfrifiaduron, sawl sianel deledu a ffonau clyfar yn wahanol i genhedlaethau eraill.”
Rhai o’r ffigurau
Roedd ymchwilwyr holi 2,000 o rieni wedi canfod bod:
- Mwy na hanner plant Cymru heb gael picnic y tu allan.
- Dau o bob tri phlentyn erioed wedi hedfan barcud na phlannu hedyn i dyfu blodyn
- Dau o bob tri heb wneud cadwyn o flodau llygad y dydd.
Er hynny, yn ôl yr adroddiad, roedd mwy na thri chwarter rhieni eisiau gweld eu plant yn treulio mwy o amser y tu allann – ond gan gyfadde’ nad oedden nhw’n gwneud digon i helpu.
Roedd chwarter y rhieni’n dweud nad oedd yna gaeau digon agos i blant allu chwarae’n rhydd.
Annog
“Mae gwyliau’r Pasg gar y ffordd, ac rwy’n annog rhieni i fynd a’u plant yn nes at natur,” meddai David Hardy.
“Mae yna gyfoeth o weithgareddau ar gael ym myd natur ac mae ymchwil yn dangos fod plant sy’n ymwneud â byd natur yn perfformio’n well yn yr ysgol ac mae’n bwysig gwneud ymdrech.”