Mae 100 o benaethiaid byd busnes wedi ymyrryd yn ymgyrch yr etholiad gyda llythyr yn canmol polisïau economaidd y Ceidwadwyr.
Ac maen nhw’n rhybuddio y byddai unrhyw newid cyfeiriad yn peryglu’r “gwelliant economaidd” – hynny’n cynnwys bwriad Llafur i atal gostyngiad pellach mewn treth ar elw.
Ond mae Llafur wedi ymateb trwy ddweud nad oes yna “ddim byd newydd” yn y llythyr i bapur newydd Ceidwadol y Daily Telegraph.
Rhwystro cytundebau dim-oriau
Heddiw fe fydd yr arweinydd Llafur, Ed Miliband, yn addo rhoi diwedd ar gytundebau dim-oriau, trwy addo cytundeb gwaith arferol i bawb sy’n gweithio oriau rheolaidd am 12 wythnos neu fwy.
Yn ôl Ed Miliband, mae’r cytundebau dim-oriau yn symbol o “fethiant economaidd” y Ceidwadwyr.
Ac, wrth ymgyrchu yn yr Alban, fe fydd y llefarydd economaidd, Ed Balls, yn addo rhoi pen ar “gyni” y Ceidwadwyr, gyda buddsoddi mewn addysg, iechyd a chreu gwaith.
Dadl tros dreth ar elw
Mae’r arweinwyr busnes, sy’n cynnwys penaethiaid cwmnïau fel BP a’r Prudential, wedi canmol y Ceidwadwyr am dorri treth gorfforaeth ar elw busnesau.
Ddoe, fe gyhoeddodd Ed Balls y byddai Llafur yn atal gostyngiad pellach er mwyn torri treth fusnes ar gwmnïau bach.