Y llun o'r camera cylch cyfyng
Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi llun o ddyn sy’n cael ei amau o ddwyn “swm sylweddol” o arian o fanc yng Nghaerdydd.
Yn ôl yr heddlu, roedd y dyn wedi cerdded i mewn i fanc Lloyds ar Heol Ddwyreiniol y Bont-faen ychydig wedi hanner dydd.
Maen nhw’n dweud ei fod rhwng 50 a 60 oed, rhwng 5’9” a 6’0” o daldra, gyda gwallt yn britho.
Llun clir
Maen nhw wedi cyhoeddi llun clir ohono gan gamerâu cylch cyfyng, gan ddweud eu bod yn hyderus y bydd rhywun yn ei nabod.
Er nad oedd neb wedi cael ei anafu, roedd yn ddigwyddiad difrifol, meddai’r heddlu.
Mae modd rhoi gwybodaeth i’r heddlu – yn ddienw os oes angen – trwy’r rhif 101 gan sôn am y cyfeirnod 1500110181.