Louise Lucas - 'goleuo stafell'
Mae amheuon wedi codi eto tros ddiogelwch ffordd bwysig yn Abertawe lle cafodd mam ifanc ei lladd ddoe.
Mae Ffederasiwn Heddlu De Cymru wedi talu teyrngedau i’r Sarjiant Louise Lucas, 41 oed, a gafodd ei lladd mewn gwrthdrawiad gyda bws ar y Kingsway ynghanol y ddinas.
Cafodd ei merch wyth oed hefyd fân anafiadau yn y ddamwain a ddigwyddodd ychydig cyn hanner dydd – doedd y rhingyll ddim yn gweithio ar y pryd.
Ail farwolaeth
Dyma’r ail dro i berson gael ei ladd mewn damwain gyda bws ar y ffordd ers iddi gael ei haddasu yn 2006 i greu ffordd ddwy lôn ar gyfer bysiau.
Eisoes, mae pobol leol wedi dechrau defnyddio gwefannau cymdeithasol i alw am newid y ffordd yn ôl fel yr oedd hi.
‘Goleuo stafell’
Yn ôl llefarydd ar ran Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru, roedd Louise Lucas yn goleuo stafell.
Roedd yna fwlch mawr o fewn Heddlu De Cymru, meddai, ac ymhlith ei ffrindiau, ond yn fwy fyth i aelodau ei theulu. Roedd ganddi dri o blant.