Mae'r gwaith wedi dechrau ar fwyty newydd Bryn Williams ym Mhorth Eirias
Ar ôl misoedd o ddyfalu, mae’r cyhoedd wedi cael yr olwg gyntaf ar fwyty newydd Bryn Williams ym Mhorth Eirias ger Bae Colwyn.
Fe gyhoeddodd y cogydd llwyddiannus lun o ran o’r bwyty newydd yng nghanolfan Porth Eirias ar ei gyfrif Trydar ynghyd a’r sylw: “Bron yna”.
Mae’r prosiect wedi wynebu oedi mawr ac erbyn hyn bron i ddwy flynedd y tu ôl i’r amserlen wreiddiol ond ym mis Chwefror, clywodd pwyllgor trosolwg Cyngor Conwy fod disgwyl i’r gwaith adeiladu gael ei gwblhau erbyn mis Ebrill.
Mae’r gwaith o addurno’r adeilad yn nwylo Bryn Williams.
Mae’r cyngor wedi cyfrannu £19,000 yn ychwanegol at addasu’r gegin ar gyfer y bwyty, sef hanner y gost o £38,000, gyda Bryn Williams yn talu’r gweddill.