Bydd Gwyl Tafwyl yn cael ei chynnal yng Nghastell Caerdydd
Mae trefnwyr Gŵyl Tafwyl yng Nghaerdydd, sy’n cael ei gynnal dros ddeuddydd am y tro cyntaf erioed eleni, wedi cyhoeddi’r artistiaid fydd yn perfformio yno.
Gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru, fe fydd y 10fed ŵyl yn cael ei chynnal yn ei lleoliad arferol yng ngerddi Castell Caerdydd ar 4 a 5 Gorffennaf – a hynny yn rhad ac am ddim i’r cyhoedd.
Ar ddydd Sadwrn Ywain Gwynedd, Kizzy Crawford, Swnami a Gwenno fydd ymhlith y bandiau fydd i’w gweld ar y Prif Lwyfan, gyda Geraint Jarman, Candelas, HMS Morris a Cowbois Rhos Botwnnog yn perfformio ar y dydd Sul.
Meic Stevens, Gentle Good, Sorella a Gwyneth Glyn fydd rhai o’r artistiaid fydd yn ymddangos ar y llwyfan acwstig.
‘Bandiau Cymraeg gwych’
Dywedodd y DJ Radio 1 a llysgennad Tafwyl, Huw Stephens: “Nawr bod Tafwyl yn ddigwyddiad dau ddiwrnod yng Nghastell Caerdydd, mae’r ystod o fandiau sydd yn chwarae yn gryfach nag erioed.
“Mae bandiau Cymraeg gwych o bob rhan o’r wlad yn chwarae, o’r hen ffefrynnau i dalent newydd cyffrous.”
Menter Caerdydd sy’n cynnal yr ŵyl ac eto eleni bydd gŵyl ffrinj yn cael ei chynnal ar draws y ddinas fel rhan o Tafwyl, gyda digwyddiadau yn cychwyn ar ddydd Sadwrn 27 Mehefin.
Rhestr lawn o’r artistiaid fydd yn perfformio
Ywain Gwynedd / H a’r Band / Gwenno / Swnami / Kizzy Crawford / Plu / Meic Stevens / Huw M / The Gentle Good / Gwyneth Glyn / Geraint Jarman / Candelas / Cowbois Rhos Botwnnog / HMS Morris / Lowri Evans / Iwcs a Gaff / Palenco / Kookamunga.