Nam trydanol oedd wedi achosi’r tân angheuol yn Abertawe fore Llun, yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i dŷ ym Mhenplas yn dilyn adroddiadau am sawl ffrwydrad yn yr adeilad.
Cafodd dau o bobol eu cludo i Ysbyty Treforys, a chafodd un person ei ladd.
Dywedodd y gwasanaeth tân fod larwm yn y tŷ wedi atal rhagor o bobol rhag cael eu lladd.
Linda Merron yw’r ddynes fu farw, yn ôl adroddiadau lleol, ond does dim cadarnhad gan Heddlu’r De hyd yn hyn.