Benedict Cumberbatch
Fe fydd yr actor Benedict Cumberbatch yn cymryd rhan yn y gwasanaeth i gladdu gweddillion y brenin Richard III yng Nghaerlŷr ddydd Iau.
Bydd Cumberbatch yn darllen cerdd sydd wedi cael ei hysgrifennu’n arbennig ar gyfer y gwasanaeth yn Eglwys Gadeiriol Caerlŷr gan fardd cenedlaethol Prydain, Carol Ann Duffy.
Mae Cumberbatch yn un o ddisgynyddion y brenin, ac fe fydd yn ymddangos yng nghyfres newydd y BBC am ei fywyd.
Bydd y gwasanaeth claddu’n cael ei arwain gan Archesgob Caergaint, Justin Welby.
Ymgasglodd 35,000 o bobol yng Nghaerlŷr ddydd Sul pan gafodd y gweddillion eu cludo i’r fan lle bu farw ym mrwydr Bosworth yn 1485, ac yna i’r Eglwys Gadeiriol lle cafodd yr osgordd eu croesawu gan Esgob Caerlŷr, Tim Stevens.
Mae disgwyl i ddisgynyddion nifer o’r rhai fu farw ym mrwydr Bosworth fod yn bresennol yfory.
Mae’r gerdd gan Carol Ann Duffy yn disgrifio gwaddol y brenin ar ôl i’w weddillion gael eu darganfod o dan faes parcio yng Nghaerlŷr yn 2012.
Aeth 5,000 o bobol i’r Eglwys Gadeiriol i weld ei arch ddydd Llun.