Mae’r heddlu yn apelio am wybodaeth wedi i dri thractor gael eu dwyn o ffermydd yn Ynys Môn o fewn pythefnos.

Cafodd dau dractor coch Massey Ferguson eu dwyn ar yr un pryd  o fferm rhwng Amlwch a Phensarn rhwng 7 a 7:40 yr hwyr, 17 Mawrth.

Daethpwyd o hyd i un tractor gerllaw’r fferm ac fe ddaethpwyd o hyd i’r llall am tua 8:05 yr hwyr ar gyrion Llynfaes, sydd tua 10-12 milltir i ffwrdd, ac mae’r heddlu’n credu bod y lladron wedi defnyddio’r ffyrdd cefn rhwng y ddau leoliad i symud y ddau dractor.

Daw wedi i dractor Massey Ferguson arall gael ei ddwyn, ynghyd a pheiriant llwytho, o Aberffraw ar noson 3/4 Mawrth.

Dywedodd yr Arolygydd Kevin Batherton: “Rydym eisiau codi ymwybyddiaeth ymysg y cymunedau ffermio a gofyn i bobol roi gwybod i ni ar 101 os ydyn nhw’n gweld ymddygiad amheus.”