Mae Cabinet Cyngor Gwynedd wedi dechrau ymgynghoriad statudol ynglŷn â chynlluniau gwerth £9.27 miliwn i adrefnu addysg yn ardal Y Bala a sefydlu Campws Dysgu ar gyfer disgyblion 3- 19 oed.

Yn dilyn cyfarfod ym mis Chwefror, mae’r ymgynghoriad yn trafod cau Ysgol Beuno Sant, Ysgol Bro Tegid ac Ysgol y Berwyn yn Y Bala, a sefydlu’r Campws ar safle presennol Ysgol y Berwyn.

Penderfynwyd hefyd i gynnal ymgynghoriad i gyfuno rheolaeth tair ysgol wledig dalgylch y Berwyn, sef Ysgol Bro Tryweryn, Ysgol Ffridd y Llyn ac Ysgol OM Edwards.

Mae gan y cyhoedd hyd at 28 Ebrill i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a bydd diwrnod galw-heibio agored yn cael ei gynnal yn Ysgol Y Berwyn ar ddydd Iau, 26 Mawrth rhwng 2pm ac 8pm.

‘Gwir awydd lleol’

“Ers sawl blwyddyn bellach, mae yna drafodaethau wedi eu cynnal am adrefnu addysg yn ardal Y Bala ac mae gwir awydd yn lleol i symud y gwaith yma yn ei flaen er mwyn sicrhau fod disgyblion yr ardal yn gallu elwa ar y cyfleusterau addysgol gorau bosib,” meddai’r  Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Gwynedd.

“Mae’n ffaith nad ydi’r sefyllfa fel y mae yn y dalgylch ar hyn o bryd yn gynaliadwy i’r dyfodol, gyda niferoedd disgyblion wedi gostwng dros y chwarter canrif ddiwethaf sydd wedi arwain yn ei dro at ddosbarthiadau yn rhai o’r ysgolion i fod yn hanner gwag.

“Nid yw rhai o hen adeiladau’r ysgolion yn addas i bwrpas ar gyfer addysgu yn yr 21ain ganrif, felly rwy’n awyddus i’n gweld yn symud ymlaen i gyflwyno newidiadau er gwell.”