Pont Hafren
Mae cymdeithas y cyflogwyr wedi croesawu’r addewid yn y Gyllideb i ostwng rhywfaint ar dollau pontydd Hafren ymhen tair blynedd.

Fe fyddai hynny’n “gam yn y cyfeiriad cywir”, meddai Emma Watkins, Cyfarwyddwraig CBI Cymru.

Er nad oes manylion am ffigurau, roedd y Canghellor ddoe wedi addo dileu’r doll yn gyfan gwbl i faniau a bysus bach.

Fe fyddai’r cyfan, meddai Emma Watkins, yn “lleihau’r gost o ddefnyddio’r pontydd i filoedd o fusnesau bach.

Ymateb cyffredinol

Dyma ymateb cyffredinol Emma Watkins i’r Gyllideb ola’ cyn yr Etholiad Cyffredinol.

“Sefydlogrwydd a chysondeb yw’r hyn sydd ei angen ar fusnesau ledled Cymru i dyfu a ffynnu.

“Mae’r Gyllideb hon ar gyfer y DU yn gosod y naws, gan ddarparu cynllun clir ar gyfer iechyd a thwf economaidd.

“Mae nifer o fesurau calonogol yn y Gyllideb hon i helpu busnesau i greu swyddi er lles pawb.”