Ysbyty Glan Clwyd
Fe ddaeth yn amlwg fod pleidlais o ddiffyg hyder wedi’i chyflwyno yn erbyn Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr tros eu penderfyniad i symud gwasanaethau mamolaeth o Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan.
Cafodd y bleidlais ei chyflwyno gan feddygon mewn cyfarfod ddechrau’r wythnos a nhwthau wedi trafod adroddiad yn beirniadu’r rheolwyr a’r diffyg cyfathrebu rhwng y bwrdd iechyd a’r ysbytai.
Mae hyn yn cryfhau achos mudiad o’r enw Cuddles sydd hefyd wedi beirniadu’r penderfyniad i atal gwasanaethau dros dro ac sy’n gofidio bod cysgod dros holl ddyfodol gwasanaethau mamolaeth a babanod newydd-anedig yn Ysbyty Glan Clwyd.
Y cefndir
Daeth cadarnhad ym mis Chwefror y byddai gwasanaethau o dan arweiniad clinigwyr arbenigol yn dod i ben dros dro am 12 i 18 mis, oherwydd “pryderon am ddiogelwch cleifion”.
Yn ôl y Bwrdd Iechyd, fe gawson nhw drafferthion wrth recriwtio meddygon arbenigol, ac fe fu’n rhaid gorddibynnu ar feddygon allanol a staff o asiantaethau.
Yn sgil atal gwasanaethau dros dro, fe fydd rhaid i gleifion fynd i Ysbyty Gwynedd neu Ysbyty Maelor Wrecsam – yn ôl Cuddles, fe fyddai hynny’n golygu cynnydd o 40% yn llwyth gwaith yr unedau yno.
Meddai’r llefarydd: “Does neb wedi dangos unrhyw dystiolaeth fod diogelwch cleifion mewn perygl yn Ysbyty Glan Clwyd, fel sydd wedi cael ei roi fel rheswm am atal gwasanaethau dros dro.”
Canolfan arfaethedig
Daeth cyhoeddiad fis Mai diwethaf y byddai Ysbyty Glan Clwyd yn gartref i ganolfan cyn-geni ranbarthol ar gyfer gogledd Cymru er mwyn trin babanod difrifol wael a rhai sy’n cael eu geni’n gynnar.
Cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones ar Twitter ar Chwefror 10 eleni na fyddai’r cynlluniau i ddatblygu’r ganolfan newydd yn cael eu heffeithio gan y penderfyniad i atal gwasanaethau dros dro.
Cafodd Ysbyty Glan Clwyd ei ddewis ar gyfer yr uned ar draul Ysbyty Maelor Wrecsam yn bennaf oherwydd ei fod yn haws i gleifion ei gyrraedd.