George Osborne
Fe fydd George Osborne yn gobeithio rhoi hwb i’r Torïaid cyn yr etholiad cyffredinol yn sgil ei Gyllideb ddoe, sydd wedi cael ymateb cadarnhaol, ar y cyfan.
Yn ei Gyllideb olaf yn y Senedd hon roedd ’na newyddion da i gynilwyr, pobl hŷn, gweithwyr a gyrwyr.
Ond mae’r Canghellor yn wynebu pwysau gan y Blaid Lafur i ddatgelu faint o doriadau pellach fydd mewn gwariant cyhoeddus.
Mae Llafur yn honni bod George Osborne yn ceisio celu maint y toriadau ac yn dweud y bydd yn arwain at wasgfa yn y Gwasanaeth Iechyd a chynnydd mewn TAW.
Yn ogystal, fe fydd dirprwy Osborne yn y Trysorlys, Danny Alexander, yn datgan yn glir bod y cydweithio o fewn y Glymblaid yn dod i ben cyn yr etholiad ar 7 Mai drwy wneud datganiad yn y Senedd yn amlinellu cynlluniau’r Democratiaid Rhyddfrydol i fynd i’r afael a’r economi.
‘Cyllideb wleidyddol iawn’
“Cyllideb wleidyddol iawn” a gafodd ei chyflwyno gan y Canghellor ddoe, yn ôl yr economegydd blaenllaw Dr Ken Richards.
Dywedodd wrth Golwg360 mai ennill pleidleisiau oedd wrth wraidd y penderfyniadau – yn enwedig y ‘pleidleisiau penwyn’ .
“Mae’n Gyllideb sy’n ffafrio pobol hŷn sydd â chynilon, ac mae’r mesurau pensiwn yn rhyddhau arian parod i lawer o bobol hefyd.
“Ond mae’n torri trethi i lot o bobol felly mae’n gwneud y diffyg yn waeth. Mae’n bosib ei fod e’n annog pobol i bleidleisio i’r Ceidwadwyr.”
Yr amgylchedd
Un o wendidau’r Gyllideb, yn ôl Ken Richards yw’r ffaith fod y dreth ar betrol wedi aros yn gyson.
“Fe fydden i wedi lico gweld codi’r dreth ar betrol am resymau amgylcheddol. Mae ceir a cherbydau eraill yn cyfrannu’n sylweddol at drafferthion o ran yr amgylchedd.”
Wrth drafod Cymru’n benodol, dywedodd fod dau o fesurau’r Canghellor yn hwb i’r economi.
Daeth cadarnhad fod Llywodraeth Prydain am gynnal trafodaeth am forlyn – neu lagŵn ynni – ym Mae Abertawe, ac roedd addewid i ostwng y doll ar bontydd Hafren.
“Mae’r freuddwyd o gael morlyn dipyn agosach, a’r pontydd yn helpu economi Cymru’n sylweddol,” meddai.