Fe fydd y newid yn y ffordd o fesur biliau treth ffermwyr yn help i annog buddsoddi yn y diwydiant amaeth ac i’w ddatblygu, yn ôl undeb NFU Cymru.

Yn ôl y drefn newydd a gafodd ei chyhoeddi yn y Gyllideb, fe fydd modd i ffermwyr dalu trethi ar sail cyfartaledd eu hincwm dros gyfnod o bum mlynedd yn hytrach nag ar sail un flwyddyn.

Dyma un o’r polisïau roedd yr undeb am ei weld yn cael ei gyflwyno ym maniffesto gwleidyddol y pleidiau ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol.

Dywed yr undeb fod ffermwyr yn wynebu “marchnad gynyddol ansefydlog” ac y byddai’r cyhoeddiad heddiw’n gymorth iddyn nhw fynd i’r afael â’r trafferthion sy’n deillio o hyn.

Meddai’r Undeb

“Rydym yn falch iawn fod Mr Osborne wedi dweud ei fod e wedi gwrando ar yr Undeb ac y bydd yn caniatâu i ffermwyr dalu cyfartaledd eu hincwm dros bum mlynedd,” meddai Dirprwy Lywydd NFU Cymru, John Davies.

Mae’r Undeb hefyd yn croesawu’r cyhoeddiad y bydd y Canghellor yn adolygu’r lwfans buddsoddi blynyddol yn ystod Datganiad yr Hydref a fod y dreth ar danwydd yn gostwng.

“I bobol sy’n byw yng nghefn gwlad, mae trafnidiaeth bersonol yn hanfodol, ond mewn nifer o ardaloedd gwledig yng Nghymru, mae trigolion eisoes yn talu’n uwch na’r cyfartaledd am eu tanwydd,” meddai John Davies.