“Cyllideb amheus gan Ganghellor amheus” oedd ymateb llefarydd materion Cymreig y Blaid Lafur i gyhoeddiad George Osborne heddiw.

Wrth feirniadu’r Ceidwadwyr am fethu â dileu’r diffyg ariannol, dywedodd Owen Smith fod disgwyl i’r diffyg gyrraedd £90 biliwn unwaith eto eleni.

Ac fe ddadleuodd fod Cymru £1.5 biliwn yn waeth ei byd o dan y Ceidwadwyr nag y byddai o dan Lywodraeth Lafur yn San Steffan.

Roedd ganddo ef, a llefarydd Plaid Cymru, Jonathan Edwards AS, rybudd am doriadau pellach – yn ôl y Blaid, fe fyddai cyllideb arall, wahanol, yn dod yn fuan ar ôl yr Etholiad.

Rhybudd i Gymru

“O wrando ar Osborne, fe allech daeru ei fod e wedi creu gwlad o laeth a mêl, o’i gymharu â’r realiti ei fod e wedi helpu i greu Prydain â chyflogau isel, cytundebau oriau sero a safonau byw sy’n gostwng,” meddai Owen Smith mewn datganiad.

Rhybuddiodd y byddai George Osborne yn cyflwyno rhagor o doriadau niweidiol i Gymru yn y senedd nesa’ pe bai’r Ceidwadwyr yn dal mewn grym.

“Byddai hynny’n golygu toriadau enfawr i Gymru ac i’r heddlu, i ysgolion ac i’r ysbytai rydyn ni i gyd yn ddibynnol arnyn nhw.

“Does dim dwywaith na all Cymru fforddio pum mlynedd arall o’r Torïaid a’r Rhyddfrydwyr yn rhoi toriadau mewn trethi i’w mêts yn y cronfeydd mantoli, tra’n codi TAW a phrisiau i deuluoedd dosbarth gweithiol.”

Ymateb Plaid Cymru

Mae llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Jonathan Edwards wedi cyhuddo’r Canghellor George Osborne o “guddio tu ôl i’r penawdau” yn dilyn ei gyhoeddiad ynghylch y Gyllideb heddiw.

Dywedodd AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr fod y Canghellor yn hogi’r fwyell ar gyfer biliynau o doriadau pellach i wasanaethau cyhoeddus.

Roedd yn mynnu bod llymder wedi methu’n llwyr a bod angen buddsoddiad sylweddol mewn isadeiledd er mwyn tyfu’r economi.

‘Addewidion gwag’

Dywedodd: “Dyma Gyllideb llawn addewidion gwag gan y Canghellor sy’n brysur yn hogi’r fwyell yn barod am y senedd nesaf.

“Mae’r rhoddion cyn-etholiad sydd wedi eu cynllunio i blesio pleidleiswyr craidd y Torïaid yn cuddio’r realiti y bydd ein gwasanaethau cyhoeddus yn diodde’ toriadau anferth yn y senedd nesa’ a hynny gyda chefnogaeth Llafur.”

Cynllun dros dro yw’r Gyllideb heddiw, meddai, ac mae’n debygol y daw Cyllideb arall yn dilyn yn ddiweddarach eleni yn sgil Etholiad Cyffredinol mis Mai.

“Yr her fawr sy’n wynebu economi Cymru a’r DG yw lefelau isel o gynhyrchu a lefelau isel o fuddsoddiad busnes.”