Llun o'r morlyn posib (llun y cwmni)
Mae Llywodraeth Prydain wedi dechrau trafod cytundebau gyda chwmni sydd eisiau datblygu lagŵn ynni ym Mae Abertawe.
Fe gafodd y datblygiad ei gyhoeddi gan y Canghellor yn ei Gyllideb a’i gadarnhau wedyn gan yr Ysgrifennydd Ynni a Newid Hinsawdd, Ed Davey.
Fe ddywedodd bod y Llywodraeth yn dechrau trafod Cytundeb ar gyfer Newid gyda Tidal Lagoon Power sydd eisiau datblygu’r cynllun gwerth £1 biliwn.
Fe fyddai Cytundeb ar gyfer Newid yn cynnig prisiau mwy sefydlog am drydan, gan ei gwneud yn haws i fusnesau fuddsoddi.
Y trafodaethau
Pwrpas y trafodaethau fydd penderfynu a fyddai’r morlyn ym Mae Abertawe yn cynnig gwerth am arian.
Mae’r datblygwyr wedi gofyn am bris o £168 MW/awr am drydan – llawer mwy na’r cyfartaledd – ac fe allai’r cynllun gynhyrchu digon o drydan i tua 120,000 o gartrefi.
Mae’r Llywodraeth yn pwysleisio nad yw trafod cytundeb yn golygu y bydd y cynllun yn cael caniatâd cynllunio. Mae honno’n broses ar wahân.
“Mae gan wledydd Prydain rai o’r adnoddau llanw gorau yn y byd,” meddai Ed Davey. “Gallai lagwnau llanw gynhyrchu 8% o’n hanghenion trydan, gan ddisodli tanwyddau ffosil tramor.”
Rhagor
Os bydd cynllun Bae Abertawe’n llwyddo, fe fyddai’r cwmni o Gaerloyw eisiau creu cynlluniau tebyg yn aber afon Hafren a ger glannau’r Gogledd.