Edwina Hart
Mae Gweinidog yr Economi, Edwina Hart, heddiw’n cyhoeddi bod £44m o arian yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru wedi’i neilltuo i estyn gwasanaeth sy’n helpu busnesau yng Nghymru i dyfu.

Mae’r gwasanaeth Cymorth i Fusnesau Bach a Chanolig yn cael estyniad am bum mlynedd arall wedi iddo helpu 15,300 o fusnesau bach a chanolig i greu bron 2,000 o swyddi newydd.

Mae’r gwasanaeth yn rhoi cyngor a help i fusnesau dyfu – o gael hyd i gyllid i ddatblygu marchnadoedd tramor.

Bydd Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop yn neilltuo £26m a Llywodraeth Cymru’n neilltuo £18m i ariannu’r gwasanaeth.

Hollbwysig

Meddai Mrs Hart: “Mae mwy na 99% o fusnesau Cymru’n fusnesau bach a chanolig, sef 60% o’r holl swyddi sydd gennym yn y sector preifat, ac felly’n hollbwysig o ran sbarduno’r economi i dyfu a chreu swyddi.

“Rwy’n falch iawn ein bod wedi llwyddo i sicrhau pum mlynedd arall o gymorth a help i fusnesau.”