Cyril Smith (Llun PA)
Roedd ymchwiliad i droseddau rhywiol gan yr Aelod Seneddol Cyril Smith wedi eu hatal gan bobol uchel yn yr heddlu a byd gwleidyddiaeth, yn ôl honiadau newydd.

Gyda’r cyhoeddiad ddoe am ymchwiliad i lygredd ar lefel uchel yn Heddlu Llundain, roedd gan y rhaglen deledu Newsnight gyhuddiadau newydd neithiwr.

Roedd ganddyn nhw dystiolaeth gan gyn blismon am orchymyn oedd wedi’i roi i ollwng ymchwiliad yn erbyn Cyril Smith, a hynny ar ôl iddo gael ei dynnu i mewn i’w holi am gam-drin plant yn rhywiol.

Tystiolaeth fideo

Yn ôl y swyddog a fu’n siarad gyda’r rhaglen, roedd gan blismyn cudd nodiadau a thystiolaeth fideo yn erbyn Cyril Smith ac uchel swyddog yn y gwasanaethau cudd.

Ond fe gawson nhw orchymyn i ildio’r holl dystiolaeth ac i beidio â chrybwyll yr achos, gyda rhybudd y gallen nhw gael eu cosbi o dan y Ddeddf Gyfrinachau Swyddogol.

Y dybiaeth yw fod Cyril Smith wedi osgoi cael ei erlyn oherwydd fod ganddo wybodaeth am bwysigion eraill.

Yn awr, mae cyn uchel swyddogion heddlu wedi galw ar i’r Ysgrifennydd Cartref, Theresa May, roi sicrwydd i gyn-swyddogion y gallan nhw roi tystiolaeth heb beryg o achos llys.

Ymchwiliad llygredd

Ddoe, fe gyhoeddodd Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu eu bod yn cynnal ymchwiliad i 14 o honiadau o lygredd yn Heddlu Llundain rhwng yr 1970au a’r 2000au.

Mae’r honiadau hynny’n cynnwys cuddio enwau gwleidyddion a phwysigion eraill mewn ymchwiliadau i gam-drin plant.