Llun Gwasanaeth Ambiwlans
Mae’r Ceidwadwyr yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o wario rhagor o arian ar dacsis i ysbytai heb wella perfformiad y gwasanaeth ambiwlans.

Roedd yn ymateb i ffigurau sy’n awgrymu bod cynnydd o 50% yn y gwario ar dacsis i fynd â chleifion i ysbytai – i bron £300,000 mewn blwyddyn lawn.

Er hynny, meddai arweinydd Ceidwadwyr Cymru, y ddau fis diwetha’ oedd y rhai gwaetha’ o ran amseroedd aros am ambiwlans.

“R’yn ni’n gwario mwy o arian ond yn cael gwasanaeth gwaeth,” meddai Andrew R T Davies wrth Radio Wales. “Mae angen rhagor o fuddsoddi ystyrlon i sicrhau bod ambiwlansys ar gael.”

Y rhesymau

Roedd yn cydnabod bod rhesymau eraill am amseroedd aros hir – gan gynnwys prysurdeb adrannau damweiniau mewn ysbytai a phobol yn eu galw am resymau pitw.

Ond, meddai, roedd rhywbeth wedi mynd o’i le gyda’r cynllun tacsis.

Yn ôl llefarwyr ar ran y gwasanaeth ambiwlans, mae’r tacsis yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod gweithwyr ambiwlans a cherbydau ar gael ar gyfer galwadau brys.