Rhodri Miller ac Alesha O'Connor (Llun yr Heddlu)
Mae tref y Barri yn wynebu pum niwrnod o alar wrth gydag angladdau’r tri pherson ifanc a gafodd eu lladd yn y ddamwain fawr ar yr A470.

Fe fydd yr angladd gynta’, un Alesha O’Connor, yn digwydd yn Eglwys Babyddol Santes Helen, Y Barri, ddydd Gwener.

Y diwrnod wedyn y bydd angladd Rhodri Miller yn Eglwys Sant Cadog yn Nhregatwg, gyda’r gwasanaeth i Corey Price yn Eglwys y Santes Fair yn y Barri ddydd Mercher nesa’.

Y ddamwain

Roedd y tri yn 17 oed ac wedi marw mewn damwain ger y Storey Arms ym Mannau Brycheiniog ar 7 Mawrth. Roedd y ddau fachgen yn ddisgyblion yn Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg.

Y gred yw fod Rhodi Miller yn gyrru car Volkswagen Golf gwyrdd, gyda’r ddau arall yn deithwyr – pan aeth yn erbyn  VW Golf du yn cael ei yrru gan wraig 68 oed, Margaret Challis.

Fe fu hithau farw ond does dim dyddiad wedi’i roi ar gyfer ei hangladd hi.

‘Arestio’

Yn ôl Heddlu De Cymru, roedd car y bobol ifanc yn un o res o geir yn cael eu gyrru “mewn confoi” ac mae saith o ddynion ifanc wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth ar ôl cael eu harestio y diwrnod wedyn.