Llys y Goron yr Wyddgrug
Fe fydd dynes o Fae Colwyn sydd wedi ei chyhuddo o ddwyn £18,000 gan ei rheini oedrannus yn treulio blwyddyn a hanner yn y carchar ac yn gorfod cwblhau 300 awr o waith di-dâl.
Ond fe gafodd dedfryd Lisa Pellatt, 45, ei ohirio am ddwy flynedd er mwyn iddi gael magu ei thri phlentyn ifanc – wedi i’w mam gyflwyno cais i’r barnwr.
Fe wnaeth Lisa Pellatt gyfaddef i ddau achos o dwyll, lle’r oedd hi wedi cymryd £18,000 o gyfrifon banc ei rheini dros bum mlynedd am ei bod hi mewn trafferthion ariannol.
Clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug nad oedd yr un o’r ddau riant yn medru gadael y tŷ heb gymorth a bod Lisa Pellatt yn derbyn arian am ofalu amdanyn nhw.
“Mae hyn wedi cael effaith enfawr ar eich mam, ac er y bydd hi’n colli cysylltiad hefo’i wyrion a’i wyresau mae hi wedi gofyn i mi ddangos trugaredd tuag atoch,” meddai’r barnwr.