Blodau y tu allan i Ysgol Bro Morgannwg
Mae llanc 17 oed a oedd wedi goroesi damwain ar yr A470 lle cafodd tri o’i ffrindiau eu lladd, wedi dweud ei fod yn lwcus i fod yn fyw.
Roedd Rhys Hunter yn teithio mewn Volkswagen Golf oedd yn cael ei yrru gan Rhodri Miller pan fu mewn gwrthdrawiad a char arall ger Storey Arms yn Aberhonddu nos Wener.
Bu farw Rhodri Miller, ei gariad Alesha O’Connor, a’i ffrind ysgol Corey Price yn y ddamwain.
Cafodd Margaret Challis, 68, a oedd yn teithio yn y car arall, hefyd ei lladd.
Mae llanc arall yn ei arddegau – sydd heb gael ei enwi – yn parhau mewn cyflwr difrifol ond sefydlog yn yr ysbyty.
Dywedodd Rhys Hunter o’r Barri ym Mro Morgannwg ei fod yn dal i geisio dod i delerau a’r hyn ddigwyddodd nos Wener ddiwethaf. Roedd wedi torri ei goes yn y ddamwain.
Dywedodd wrth BBC Cymru: “Rydw i’n lwcus i fod yn fyw o ystyried beth ddigwyddodd i bobl eraill.”
Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i’r rhai fu farw yn y ddamwain a bydd gwasanaeth coffa yn cael ei gynnal yfory.
Mae torchau o flodau wedi cael eu gadael tu allan i Ysgol Bro Morgannwg yn y Barri lle’r oedd Rhodri Miller a Corey Price yn ddisgyblion, a Choleg Dewi Sant yng Nghaerdydd lle’r oedd Alesha O’Connor yn fyfyrwraig.
Mae’r heddlu’n parhau i ymchwilio i’r ddamwain – maen nhw’n credu bod y VW Golf, oedd yn cael ei yrru gan Rhodri Miller, wedi bod yn teithio “mewn confoi” gyda cherbydau eraill ar y pryd.
Cafodd saith o yrwyr eraill, 17 ac 18 oed, o’r cerbydau eraill eu harestio ar amheuaeth o yrru’n beryglus. Maen nhw i gyd wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliadau’n parhau.