Mae dynes 75 oed wedi marw wrth iddi gael ei tharo i lawr gan fws yn nhref Penfro y bore yma.
Mae Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio i’r digwyddiad ar bont Mill Pond yn y dref ychydid wedi 10am.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu fod dyn 54 wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad, a bod y ffordd wedi cau wrth i arbenigwyr archwilio’r safle.
Gofynnir i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad gysylltu â’r Rhingyll Chris Neve yn yr Uned Plismona Ffyrdd ar 101.