Arweinydd Llafur, Ed MIliband
Mae David Cameron wedi herio Ed Miliband, i ddatgan ar goedd na fyddai’r Blaid Lafur yn ffurfio unrhyw gytundeb â’r SNP ar ôl yr etholiad.
Dywed y Prif Weinidog mai llywodraeth Lafur a fyddai’n dibynnu ar gefnogaeth pleidleisiau’r SNP fyddai’r ‘canlyniad gwaethaf’ i Brydain.
“Byddai’n gynghrair rhwng y bobl a fydd yn gwneud Prydain yn fethdalwr a’r bobl sydd â’u bryd ar chwalu Prydain,” meddai.
“Os yw Ed Miliband yn poeni am ei wlad, dylai wrthod cytundeb o’r fath. Allwch chi ddim gadael i bobl sydd eisiau chwalu’n gwlad i mewn i lywodraeth ein gwlad.”
Yn y cyfamser, mae Ed Miliband yn yr Alban yn apelio ar yr etholwyr yno i gefnogi Llafur er mwyn helpu cael gwared ar y Llywodraeth Dorïaidd.
“Mae pob pleidlais dros unrhyw blaid arall, gan gynnwys yr SNP, yn gwneud Llywodraeth Dorïaidd yn fwy tebygol,” meddai mewn araith yng Nghaeredin.
“Bydd pob un Aelod Seneddol Llafur yn llai yn ei gwneud hi’n fwy tebygol mai’r Torïaid fydd y blaid fwyaf.”
Mae Ed Miliband wedi cadarnhau hefyd y bydd yn cymryd rhan yn y tair dadl deledu sy’n cael eu cynnig gan y darlledwyr yn ystod y cyfnod sy’n arwain at yr etholiad.