Yr Arglwydd Dafydd Wigley (llun: PA)
Mae’r SNP wedi addo cefnogi galwad am fwy o arian i Gymru os bydd bargeinio rhwng pleidiau mewn senedd grog, yn ôl cyn-lywydd Plaid Cymru, yr Arglwydd Dafydd Wigley.
Wrth siarad yng nghynhadledd wanwyn y Blaid yng Nghaernarfon, dywedodd ei fod yn disgwyl y bydd Plaid Cymru, yr SNP a’r Gwyrddion yn dal y fantol ar ôl yr Etholiad Cyffredinol ym mis Mai, ac mewn sefyllfa gref i ddylanwadu ar y llywodraeth newydd.
Wrth gyhoeddi bod yr SNP yn cefnogi galwad ei blaid i Lywodraeth Cymru gael ei chyllido yn yr un ffordd a’r Alban, dywedodd y byddai’r arian hynny’n golygu £1.2 biliwn yn ychwanegol i goffrau’r wlad.
“Yn dilyn refferendwm yr Alban, mae posibilrwydd gwbl real mai cefnogaeth i grŵp Seneddol y blaid yn San Steffan, yn ogystal â’r ddwy blaid a rall, fydd yn cynyddu fwyaf o unrhyw blaid,” meddai’r Arglwydd Wigley.
“Mae’n hynod debyg yn yr amgylchiadau hyn mai’n grŵp ni fydd yn dal y fantol yn y Senedd newydd ac felly mewn safle unigryw i ddylanwadu ar y llywodraeth newydd.
“Mae’n dda gen i ddatgan i’r gynhadledd hon, ein bod wedi cael dealltwriaeth gan ein cyfeillion yr yn SNP, y byddant hwy hefyd yn cefnogi i Gymru gael setliad cyllidol cyffelyb i’r hyn sydd gan yr Alban.”
Apeliodd at ffyddloniaid y blaid i “dorchi llewys” i roi’r bleidlais uchaf erioed i Blaid Cymru.
Ychwanegodd: “Rhaid i un neges fynd i bob cwr o Gymru yn yr etholiad hwn – yr ydym yn mynnu cyllid teg – ac erbyn hyn, yn sgil datganiadau’r dyddiau diwethaf – mae’n gwbl glir na fydd unrhyw un o bleidiau Llundain yn fodlon cynnig i Gymru adnoddau cyffelyb i’r hyn sy’n mynd i’r Alban.”