Mae Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru’n rhybuddio y bydd toriadau pellach yng nghyllidebau heddluoedd yn arwain at lai o blismyn.
Daw rhybudd Peter Vaughan, sydd hefyd yn llywydd dros dro Cymdeithas y Swyddogion Heddlu, wrth i holl heddluoedd Cymru a Lloegr baratoi ar gyfer toriadau ariannol sylweddol dros y pum mlynedd nesaf.
Mae’r arian y mae’r heddlu’n ei dderbyn gael y llywodraeth ganolog yn cael ei dorri 5% yn 2015/16, ac mae disgwyl cannoedd o filynau o doriadau pellach o 2016 ymlaen.
Er bod gostyngiad wedi bod mewn troseddu, dywed Peter Vaughan, nad yw hyn yn golygu nad oes angen cymaint o arian ar yr heddlu.
“Yn Heddlu De Cymru, er enghraifft, nid yw troseddu ond yn cyfrif am 28% o’n gwaith bob dydd,” meddai.
“Hyd yn oed pan fyddwn yn edrych ar droseddu, mae’r newid yn natur troseddau’n golygu bod yn rhaid inni symud a newid ein hadnoddau.”
Codi mwy o dreth cyngor
Dangosodd arolwg gan y BBC fod rhai heddluoedd wrthi’n cynllunio i dorri ar nifer eu plismyn a bod 34 o heddluoedd yn bwriadu cynyddu’r rhan o’r dreth cyngor sy’n mynd at yr heddlu.
Wrth ymateb i’r pryderon, dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref:
“Yr hyn sy’n bwysig yw sut mae plismyn yn cael eu defnyddio, nid cyfanswm eu nifer.
“Mae’r gostyngiad mewn troseddu ledled y wlad yn dangos nad oes cysylltiad syml rhwng niferoedd plismyn a lefelau troseddu, pa mor weladwy yw plismyn yn y gymuned ac ansawdd y gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu.
“Mae’r Llywodraeth wedi’i gwneud hi’n haws i’r heddlu wneud eu gwaith trwy dorri biwrocratiaeth, cael gwared ar dargedau diangen, a rhoi’r dewis i heddluoedd sut maen nhw’n defnyddio’u hadnoddau.”